Ffurfiwyd From The Jam yn 2006 pan fu i Russell Hastings a Rick Buckler (cyn ddrymiwr The Jam), a oedd yn teithio fel The Gift, ymuno â Bruce Foxton (cyn faswr ac ysgrifenwr caneuon The Jam), i ffurfio From The Jam. Russell Hastings yw’r unig brif leisydd i weithio gyda Rick Buckler a Bruce Foxton ers Paul Weller.
All Mod Cons oedd y trydydd albwm stiwdio gan The Jam a ryddhawyd yn 1978. Roedd yr LP yn cynnwys senglau Down In The Tube Station At Midnight, ‘A’ Bomb In Wardour Street, a David Watts.
Bydd From The Jam yn perfformio’r albwm All Mod Cons yn llawn ynghyd â mwy o ganeuon poblogaidd a ffefrynnau The Jam.