Francis Rossi
An Evening of Francis Rossi’s Songs from the Status Quo Songbook and More
Yn y sioe “An Evening of Francis Rossi’s Songs from the Status Quo Songbook and more…”, mae Francis Rossi’n addo fersiwn arloesol o rai o’i ganeuon mwyaf poblogaidd ac oesol, a hanesion newydd, gonest, o’i yrfa anhygoel fel un o berfformwyr a storïwyr gorau roc.
Mae Francis Rossi’n cychwyn taith 34 dyddiad o gwmpas y DU o fis Ebrill i fis Mehefin 2025, gyda sioe newydd sbon sydd wedi ei henwi yn “An Evening of Francis Rossi’s Songs from the Status Quo Songbook and More…”. Bydd y sioeau hyn yn cynnwys caneuon nad yw wedi eu perfformio erioed o’r blaen yn y ffurf hon, a chawn glywed hanesion cefn llwyfan o lygad y ffynnon am ymddangos ar Top Of The Pops dros 100 o weithiau, pam mai’r band oedd y cyntaf ar y llwyfan yng nghyngerdd Band Aid, bywyd gyda Rick Parfitt, caneuon poblogaidd, sêr eraill, a hynt a helynt ym mhob cwr o’r byd – a ffraethineb a hiwmor Francis yn plethu drwy’r cyfan. Bydd nifer cyfyngedig iawn o docynnau VIP ar gael ar gyfer pob sioe, sy’n cynnwys sesiwn Cwrdd a Chyfarch gyda Francis, cyfle i gael tynnu llun gydag o (dewch â’ch ffôn / camera eich hun ar gyfer hyn), cyfle am lofnod ar eitem o’ch eiddo chi’ch hun, un o’r seddi gorau yn y theatr ar gyfer y sioe, ac un o nwyddau unigryw y daith.
Bydd Francis yn perfformio llawer o’i ganeuon poblogaidd a wnaeth Status Quo yn enwog, yn ogystal â rhai ffefrynnau personol a chaneuon a fydd yn gyfarwydd i’r cefnogwyr mwyaf selog, a bydd yn dweud mwy o storïau am ei fywyd anhygoel ym myd cerddoriaeth. Ydych chi’n meddwl eich bod yn adnabod Francis? Ddim eto… Mae’r stori’n dechrau gyda ‘Pictures of Matchstick Men’ ac yn parhau hyd at y presennol. Bydd Francis yn canu ei gitâr Acoustasonic gan mwyaf, sydd, fel y dywed ef, “yn Telecaster yn y bôn, ond yn fwy addas ar gyfer sioe o’r natur hon – mae sŵn Tele yn perthyn iddi”.
Yn ogystal â’i lwyddiant parhaus gyda Status Quo – mae gan y band galendr llawn dop o sioeau unwaith eto eleni – mae Francis wedi bod yn mwynhau mynd ar ei daith un dyn. Mae’r sioeau newydd hyn ar gyfer 2025 yn addo llawer mwy o gerddoriaeth, a digonedd o siarad hefyd. Bydd y sioeau’n codi cwr y llen ar sut beth yw bywyd mewn gwirionedd yn un o fandiau mwyaf a gorau Prydain, a byddant hefyd yn rhoi rhywfaint o gyd-destun i’r holl bethau anhygoel sydd wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd.
Mae Francis ei hun yn dweud, “Mae hon yn sioe newydd sbon. Rwyf wedi bod yn arbrofi gyda’r catalog ac rwy’n gwybod beth sy’n gweithio orau. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol, ac rwyf wedi fy synnu pa mor dda ydy rhai o’r caneuon mewn cywair is, neu gyda threfniant gwahanol. Yn 2025, fe fydd yna ddigonedd o ganeuon nad ydw i wedi eu gwneud o’r blaen: ‘Army’, ‘Dirty Water’, ‘Don’t Waste My Time’, ‘Roll Over Lay Down’; ‘Down Down’, hyd yn oed – roedd hi’n syndod i mi fod hon yn gweithio fel hyn, ond mae’n wych. Mae’r sioeau yma’n bleser i mi. Maen nhw’n gweddu i’m llais yn dda, a ’does dim rhaid i mi weiddi. Yn ogystal, rwy’n gwybod bod pobl yn mwynhau caneuon fel ‘Caroline’, ‘Paper Plane’, ‘Break The Rules’, ‘What You’re Proposin’’ a ‘Rockin’ All Over The World’, felly mi fydda’ i’n cynnwys y rheiny hefyd! Mae’r sioe hon yn adrodd stori’r Quo – fedra’ i fy hun ddim credu rhai o’r pethau sydd wedi digwydd – ac mae’n adrodd fy stori innau hefyd.”