Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau

Opera Cenedlaethol Cymru

Ffefrynnau Opera yn y Ffilmiau

Ar werth: Gwe 1 Mawrth, 10am

Byddwch barod... mae opera yn mynd i Hollywood.

Mae opera, gyda’i halawon cofiadwy a chorysau anhygoel, yn gyfeiliant perffaith ar gyfer unrhyw achlysur mewn bywyd ac, yn y ffilmiau, nid oes prinder adegau i’w cyfoethogi.

O Apocalypse Now, dechreuwch ar daith beryglus gyda’r drwg-enwog Ride of the Valkyries gan Wagner (Die Walküre), profwch esgyniad a chwymp The House of Gucci gyda Largo al Factotum gwefreiddiol ac egnïol Rossini (The Barber of Seville), ymunwch â James Bond ar berwyl yn Quantum of Solace gyda Te Deum llawn dwyster Puccini (Tosca), a mwy. Mae’n wir dweud bod opera wedi mynd y tu hwnt i lwyfan y byd opera ac wedi cyrraedd y brif ffrwd!

Os ydych yn frwd dros opera neu’n awyddus i roi cynnig arni, eisteddwch i lawr a mwynhewch noson fythgofiadwy o ffefrynnau opera o’r byd ffilmiau.

#WNOfavourites

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event