Yn syth o’r West End yn Llundain, dyma ddathliad gwych o George Michael!
Gyda sioe newydd sbon ar gyfer 2025.
Cewch greu atgofion newydd wrth ail-fyw hen glasuron. Mae’r sioe hon yn arbennig ar gyfer dilynwyr y canwr – mae’n dathlu un o’r cerddorion gorau a welodd y byd erioed, ac rydym ni’n diolch am hynny!
Mae popeth i’w gael yn y sioe yma, y pŵer, yr emosiwn, a sêr o ansawdd yn y cynhyrchiad trawiadol hwn ynghyd â sioe fideo a goleuadau, wrth i ni ail-greu trac sain eich bywyd.
Yn cynnwys yr holl ganeuon poblogaidd, gan Wham! a thrwy gydol ei yrfa lwyddiannus gan gynnwys Wake Me Up, Too Funky, Father Figure, Freedom, Faith, Knew You Were Waiting, Careless Whisper a llawer mwy.
FastLove: ar gyfer y dilynwyr.
"The closest you can get to the real thing"
The Reviews Hub