Mae The Elvis Years, sydd bellach ar ei 20fed blwyddyn ac yn cynnwys seren wreiddiol y West End, Mario Kombou, yn cychwyn ar ei daith fwyaf erioed yn y DU a thu hwnt.
Yn ddiamheuaeth dyma brif gynhyrchiad theatrig y DU yn ymwneud ag Elvis ac mae’r sioe drawiadol yn mynd â’r gynulleidfa ar daith wych drwy’r holl flynyddoedd y bu’r Brenin yn rheoli’r tonfeddi.
Gyda chast llawn o dalent o’r West End, ceir sioe anhygoel, goleuadau syfrdanol a chynnwys fideo rhagorol, mae Mario a’r band yn cyflwyno dros 50 o’r goreuon euraidd, gan glustnodi hanes ac uchafbwyntiau’r bachgen o Tupelo - o’i ganeuon cynharaf ‘That’s Alright Mama’, ‘Don’t Be Cruel’ a ‘I Got Stung’ yr holl ffordd i’w gyngherddau enwog yn Las Vegas gyda ‘In the Ghetto’, ‘The Wonder of You’ ac wrth gwrs ‘Suspicious Minds'.