Mae ELO AGAIN yn ôl gyda thaith y 'Re-Discovery Tour’ sy’n dathlu cerddoriaeth Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra sydd wirioneddol yn apelio at bawb.
Mae ELO AGAIN wir yn rhoi blas dramatig i chi o sut fyddai cyngerdd chwedlonol ELO wedi bod yn ôl yn eu hanterth, mae’r profiad cyfan yn cael ei ail-greu yn broffesiynol gydag atgynhyrchiad sŵn, sioe o oleuadau ac effeithiau gweledol gwych.
Fel sioe deyrnged flaenaf y DU, mae ELO AGAIN yn cyflwyno effaith fyw drawiadol offeryniaeth enwog, offerynnau llinynnol a lleisiau anhygoel ELO. Maent yn sicr yn gwybod sut i ddiddanu hefyd, gan fod y clasuron yn parhau i ddod. Mae eu fersiwn o “MR BLUE SKY” yn wefreiddiol ac yn llawn angerdd a brwdfrydedd; fe fydd yr awditoriwm cyfan ar eu traed.