Dr Louise Newson: Hormones and Menopause - The Great Debate

Dr Louise Newson: Hormones and Menopause - The Great Debate

Archebwch nawr

Mae Dr Louise Newson, arbenigwr meddygol blaenllaw ar y menopos a hormonau, yn cychwyn ar ei thaith theatr gyntaf yn y DU yng nghwmni’r digrifwr Anne Gildea o Ddulyn.

Nod ‘Hormones and Menopause – The Great Debate’ yw addysgu a herio camsyniadau am y menopos ac eirioli dros well gofal iechyd i fenywod.

Wedi’i disgrifio fel y doctor ddaru gychwyn y chwyldro menopos, mae Dr Louise wedi trawsnewid bywydau miloedd ar filoedd o fenywod a’u teuluoedd drwy ei gwaith arloesol fel meddyg teulu ac arbenigwr menopos. Mae ei chyngor ar HRT a ffactorau bywyd fel ymarfer corff, diet a chwsg, wedi chwyldroi iechyd a lles llawer o fenywod.

Yn adnabyddus am ei chomedi gonest ac addysgiadol, mae Anne yn un o sylfaenwyr y triawd comedi cerddorol Gwyddelig, The Nualas. Bydd yn dod â hiwmor a safbwyntiau unigryw a bydd gwybodaeth Louise yn caniatáu i fenywod wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd; ac ar yr un pryd bydd yn addysgu gweddill y teulu, yn cynnwys y dynion.

Noson o ddysgu a chwerthin lle bydd y ddeuawd yn eich swyno, addysgu a diddanu.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event