Mae'r term 'eicon' neu 'arwr' yn dueddol o gael ei daflu o gwmpas braidd yn ysgafn y dyddiau hyn, ond heb os, mae Dafydd Iwan yn eicon ac yn arwr Cymreig gyfoes go iawn.
O’i ddyddiau cynnar yn ymgyrchu a pherfformio caneuon protest yn y 60au a’r 70au hyd heddiw, mae ei anthemau gwerin cofiadwy wedi sefyll prawf amser ac mae wedi bod yn artist poblogaidd yn y sîn Gymraeg ar hyd y degawdau. Fodd bynnag, mae llwyddiant ysgubol ei berfformiadau o 'Yma o Hyd' o flaen tîm pêl-droed Cymru a’u cefnogwyr yn 2022 wedi ei yrru i lefel arall o boblogrwydd ymhlith y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd ac wedi agor ei gerddoriaeth i cynulleidfa newydd.
Mae gan Dafydd ôl-gatalog cryf, sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i Yma o Hyd – gwerth ei wylio’n fyw (gyda’i fand) mewn perfformiad theatr prin.