Pobl y Cwm yw’r opera sebon sydd wedi bod yn rhedeg hiraf gan y BBC ac mae’n un o’r rhaglenni Cymraeg sy’n cael ei gwylio fwyaf ar S4C. Mae’r opera sebon yn dathlu 50 mlynedd eleni!
Nawr, bydd rhai o gymeriadau mwyaf adnabyddus y gyfres yn Venue Cymru ar gyfer Cymerwch Ran ac maent yn edrych ymlaen at gyfarfod aelodau o’r teulu o wylwyr Pobl y Cwm o bob oed ac ar draws Cymru a thu hwnt.
Felly dewch draw i holi’r cast sy’n ymweld am eu rolau a chanfod mwy am y plotiau dramatig a materion dadleuol sydd yn ymddangos ar S4C bob nos.
Holi ac Ateb Pobl y Cwm
- Dydd Sadwrn 13 Ionawr | 12pm - 1pm
- Dydd Sul 14 Ionawr | 1.30pm - 2.30pm
- Ystafell Aled
- Cofrestrwch ar y diwrnod
- Am ddim