Mae Teyrnged Orau’r Byd i fand Coldplay yn berfformiad cyngerdd byw syfrdanol, sy’n dathlu cerddoriaeth un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus erioed.
Y band teyrnged rhagorol hwn yw’r unig un sydd wedi gweithio i Coldplay, a bydd yn eich arwain trwy eich holl hoff ganeuon Coldplay o’r 20 mlynedd diwethaf a mwy gan gynnwys Yellow, Paradise ac A Sky full of Stars, trwodd i Higher Power a My Universe o’u halbwm diweddaraf, Music of the Spheres.
Mae’r sioe hon o’r radd flaenaf yn ail-greu’n ffyddlon hudoliaeth teithiau byw Coldplay sydd wedi torri pob record – yn cynnwys goleuadau laser, conffeti, sgrin fideo a’r bandiau arddwrn Xyloband LED sydd wedi dod yn rhan allweddol o gyngherddau Coldplay, ac sy’n sicr yn cynnwys y gynulleidfa yn y sioe.