Lle mae Theatr Gerdd yn cwrdd â’r Syrcas
Croeso i fyd lle mae caneuon gorau theatr gerdd yn cwrdd â syrcas anhygoel. Byd sy’n llawn lliw wrth i hoff ganeuon pawb o’r West End a Broadway gyfuno ag artistiaid syrcas rhyfeddol sy’n perfformio campau cyffrous o ystwythder a dawn.
Mae’r caneuon mwyaf enwog o’ch hoff sioeau theatr yn cael eu cyflwyno i’r llwyfan mewn ffordd unigryw a rhyfeddol mewn cynhyrchiad hudolus sy’n anhygoel ac yn syfrdanol ar yr un pryd.