Chwe Gwlad Merched Dan 18 oed
-

Chwe Gwlad Merched Dan 18 oed

-
Archebwch Nawr

Cynhelir Gŵyl Chwe Gwlad Merched Dan 18 oed y gwanwyn hwn yn Stadiwm CSM Bae Colwyn. Y cyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru.

Mae’r ŵyl gyffrous hon yn gyfle i rai o ddoniau ifanc disgleiriaf y gamp i serennu ar y llwyfan rhyngwladol.  Mae’r ŵyl hefyd yn cynnwys rhaglen o gyfleoedd datblygu i hyfforddwyr, dadansoddwyr a swyddogion gemau o bob un o Undebau’r Chwe Gwlad.

Cynhelir tair gêm yn ystod yr ŵyl, felly peidiwch â methu’r cyfle i gefnogi’r athletwyr ifanc dawnus.

Bydd tocynnau ar gael ar ddiwrnod y tair gêm, pris tocyn oedolyn fydd £11 a £6 i wylwyr Dan 16 oed.

  • Diwrnod gêm 1: Dydd Gwener 29 Mawrth 2024
  • Diwrnod gêm 2: Dydd Mawrth 2 Ebrill 2024
  • Diwrnod gêm 3: Dydd Sadwrn 6 Ebrill 2024
* Mae pris y tocyn yn cynnwys ffi weinyddol o £1
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event