Chitty Chitty Bang Bang
-

Chitty Chitty Bang Bang

-
Archebwch Nawr

Y SIOE GERDD FWYAF ANHYGOEL yn hedfan i VENUE CYMRU am 1 WYTHNOS YN UNIG!

Mae cast y cynhyrchiad newydd sbon yma o ffefryn teuluoedd y byd yn cynnwys Adam Garcia (Wicked, Kiss Me Kate, Coyote Ugly) fel Caractacus Potts, Liam Fox (Emmerdale) fel Grandpa Potts a Charlie Brooks (The Ocean at the End of the Lane, EastEnders) fel y Childcatcher. Wedi’i chyfarwyddo gan Thom Southerland (Titanic, Parade), ei choreograffu gan Karen Bruce (Strictly Come Dancing y BBC, The Bodyguard) a’i dylunio gan Morgan Large (Newsies, Joseph and the Technicolour Dreamcoat) mae’r sioe gerdd hon sydd wedi ennill gwobrau di-ri yn llawn caneuon bythgofiadwy gan y Sherman Brothers, gan gynnwys “Toot Sweets”, “Hushabye Mountain”, “Truly Scrumptious” ac wrth gwrs y gân deitl a enwebwyd ar gyfer Gwobr Academi, “Chitty Chitty Bang Bang”.

Yn seiliedig ar stori oesol Ian Fleming i blant ac a wnaed yn ffilm enwog ym 1968, yn CHITTY CHITTY BANG BANG rydym yn cwrdd â’r dyfeisiwr difeddwl Caractacus Potts sy’n adfer hen gar rasio gyda chymorth ei blant Jemima a Jeremy. Yn fuan mae’r teulu’n darganfod bod gan y car bwerau hud, ac ynghyd â’r Truly Scrumptious hyfryd a Grandpa Potts, maen nhw’n mynd ar antur ryfeddol a digrif dros ben i bellteroedd byd. Mae eu siwrnai dwymgalon yn gwneud CHITTY CHITTY BANG BANG yn sioe llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event