Dawnswyr proffesiynol Strictly, Dianne Buswell a Vito Coppola, sy’n serennu yn y sioe lwyfan newydd sbon yma, Red Hot and Ready!
Dyma sioe ddawns ddeinamig a gwahanol wedi’i chreu gan y coreograffydd o fri Jason Gilkison (sydd hefyd wedi ennill gwobr BAFTA). Mae Red Hot and Ready yn adeiladu ar yr etifeddiaeth berfformio a grëwyd gan gyffro dawns byd-eang Burn the Floor, sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ers dros ugain mlynedd.
Gan ddod â’r ddau boblogaidd, Dianne a Vito, at ei gilydd, gyda’u gallu anhygoel i roi perfformiadau gwefreiddiol, a chast o ddawnswyr amlddisgyblaeth Burn the Floor o bedwar ban byd, mae Red Hot and Ready yn strafagansa ddawns fywiog eithriadol, yn ffrwydro gyda choreograffi trawiadol, cerddoriaeth gyffrous a symudiadau syfrdanol – o’r rhywiol iawn i’r hynod hudolus – a’r cyfan yn dathlu pleser pur dawns!