Chwe deg mlynedd yn ôl daeth ffilm hir gyntaf y Beatles A Hard Day’s Night yn llwyddiant masnachol, gan dderbyn enwebiad ar gyfer dwy wobr Academy. Y flwyddyn ganlynol ym 1965 derbyniodd eu hail ffilm Help!, mewn lliw y tro hwn, ganmoliaeth debyg. Cyfeiriwyd at y grŵp fel y Brodyr Marx modern, a chafodd eu cyfarwyddwr, Dick Lester, ei bennu’n ‘dad’ i’r diwylliant fideos pop MTV a ddaeth yn ddiweddarach.
Felly does dim adeg well na hon i fynd ati i ddathlu caneuon y pum ffilm yn eu catalog, nid y ddwy yma’n unig. Yn cynnwys caneuon o A Hard Day’s Night, Help!, Magical Mystery Tour, Yellow Submarine a Let it Be, mae’r Bootleg Beatles a’u cerddorfa yn mynd â chi ar wibdaith drwy yrfa anhygoel y pedwarawd yn eu sioe lwyfan amlgyfrwng newydd sbon.
Mae’r cyfan yno, y gwisgoedd, y gwalltiau a’r hwyl. Nid y Beatles sydd yno…. ond wnewch chi ddim credu hynny!