Yn dilyn teithiau ledled y DU ac Ewrop lle gwerthwyd pob tocyn, mae’r canwr-gyfansoddwr a’r pianydd enwog Elio Pace a’i fand anhygoel yn dod i Landudno gyda’r sioe arobryn syfrdanol The Billy Joel Songbook yn 2025.
Gan dalu teyrnged i un o’r cerddorion a’r canwyr-gyfansoddwyr mwyaf eiconig yn yr 20fed ganrif, The Billy Joel Songbook yw’r llythyr caru gorau erioed i athrylith sef Billy Joel.
Gan gludo’r gynulleidfa drwy bum degawd o ganeuon llwyddiannus, bydd Elio a’i fand yn perfformio dros 30 o ganeuon o gatalog helaeth Joel sy’n cynnwys 82 o senglau gan gynnwys ‘The Longest Time’, ‘She’s Always A Woman’, ‘An Innocent Man’, ‘Uptown Girl’, ‘Tell Her About It’, ‘The River of Dreams’, ‘We Didn’t Start The Fire’ a ‘Piano Man’.
“Fe fyddwn i wrth fy modd pe byddem yn chwarae pob sengl ond gyda chynifer o ganeuon yn ôl gatalog y dyn anhygoel hwn byddai angen sioe pedair awr arnom ni,” meddai Elio. “Mae hi mor gyffrous ein bod yn dychwelyd gyda The Billy Joel Songbook ac rwy’n addo y byddwn yn sicrhau fod cynifer â phosibl o hoff ganeuon pawb yn cael eu perfformio.”