Ben Portsmouth- This is Elvis

Ben Portsmouth- This is Elvis

Book Now

Ben Portsmouth yn cyflwyno ei  deyrnged wefreiddiol i Elvis, Brenin Roc a Rôl!

Gyda llwyddiant mewn mwy nag 20 o wledydd o amgylch y byd a pherfformiadau ar yr un llwyfan yn Vegas ag Elvis, fyddwch chi ddim isio colli sioe Ben Portsmouth - This is Elvis yn Venue Cymru.

Yn 2012 creodd Ben hanes a thorrodd bob record drwy fod yr unigolyn Ewropeaidd cyntaf i gael ei goroni’n artist teyrnged Elvis gorau’r byd yn Memphis gan Elvis Presley Enterprises.  Yn fuan iawn wedyn cafodd wahoddiad i berfformio ar The Late Show gyda David Letterman yn ystod wythnos arbennig yn dathlu Elvis.

Gan ddathlu bywyd perfformiwr cwbl eiconig bydd Ben a’r band Taking Care of Elvis yn mynd â chi ar daith hel atgofion gyda rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Elvis o bob cyfnod yn cynnwys y 1950au, 1968 a’r ‘Comeback Special’, a ffefryn personol Ben, cyngherddau Vegas y 1970au. 

Yn olygus a charismataidd, mae Ben yn parhau i ryfeddu cynulleidfaoedd gyda’i bresenoldeb ar y llwyfan, ac mae ei ddilynwyr yn fyd-eang yn honni  mai  ‘dyma’r agosaf fyddwch chi byth at y Brenin ei hun’. 

Ymunwch â ni am noson wefreiddiol gyda Ben a’r band.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event