Ben Portsmouth - This Is Elvis

Ben Portsmouth - This Is Elvis

Archebwch Nawr

Ben Portsmouth yn dod â’i deyrnged wefreiddiol i Frenin Roc a Rôl 

Daw Ben o Swydd Berkshire ac mae’n ganwr, cyfansoddwr caneuon, cerddor ac actor (Autopsy: The Last Hours of Elvis 2014 ac Elvis: Are You Lonesome Tonight 2020, ac mae’n enwog ledled y byd fel artist teyrnged i Elvis Presley. 

Roedd DNA Elvis yng ngwaed Ben o oedran ifanc. Roedd ei dad yn hoff iawn o Elvis a thyfodd Ben i fyny ar ddiet o ganeuon Elvis. Ar ôl hogi ei ddoniau cerddorol dechreuodd Ben ar ei siwrnai fel Artist Teyrnged Elvis yn 2005 pan ffurfiodd band o’r enw Taking care of Elvis. 

Ar ôl ennill nifer o wobrau clodfawr, ym mis Awst 2012, creodd Ben hanes pan enillodd gystadleuaeth "Ultimate Elvis Tribute Artist” ym Memphis, a drefnwyd gan Elvis Preseley Enterprises. Coronwyd Ben yn artist teyrnged Elvis gorau’r byd, yr unig artist o du allan i’r Unol Daleithiau i ennill y teitl mawreddog hwn erioed.

Yn dathlu bywyd perfformiwr eiconig ac adrodd stori’r Brenin trwy’r sioe bydd Ben a’r band yn mynd a chi ar daith hel atgofion gyda setiau egnïol o nifer o ganeuon mwyaf poblogaidd Elvis o bob cyfnod megis y 1950au, yr Ailymddangosiad Arbennig yn ‘68, a ffefryn personol Ben, cyngherddau Vegas y 1970au.  Fel gitarydd amrywiol, gall Ben newid yn esmwyth o roc a roll, gospel, a ‘soul’ ac yn sicr bydd digon o newid gwisgoedd anhygoel a llawer o ryngweithio gyda’r gynulleidfa ar hyd y ffordd!  Gyda’i edrychiad, swyn a charisma, mae Ben yn parhau i ryfeddu cynulleidfaoedd gyda’i bresenoldeb ar y llwyfan, gyda’i ddilynwyr yn honni’n fyd-eang ‘dyma’r agosaf y byddwch erioed yn dod at y Brenin ei hun’.  

Ar ôl perfformiadau sydd wedi gwerthu pob tocyn ar draws y byd, byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan noson anhygoel!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event