Mae’r sioe yn cynnwys sengl Steve ei hun a gyrhaeddodd rif 1 yn y siartiau, “Everything They Said Was True”, a ysgrifennwyd gan John Parr a Meat Loaf.
Am fwy na 30 mlynedd mae Steve wedi teithio’r byd gyda’i gynyrchiadau Anything For Love a Vampires Rock a bellach hefyd yn teithio gyda’i gerddoriaeth wreiddiol ei hun.
Gyda set lwyfan anhygoel, band byw â deg aelod, wedi’u cyfuno â synnwyr digrifwch a phresenoldeb llwyfan poblogaidd Steve, yr unig air i ddisgrifio’r sioe hon yw rhagorol.
Bydd y sioe yn eich codi o’ch sedd i weiddi am fwy wrth i Steve a’i gast o gantorion a cherddorion anhygoel eich arwain ar daith llawn atgofion yn ôl mewn amser.
Anything For Love – Bat Out Of Hell - Paradise By The Dashboard Light – Took The Words Right Out Of My Mouth - Two Out Of Three Ain’t Bad - Dead Ringer For Love - Total Eclipse Of The Heart a llawer, llawer mwy.