2:22 A Ghost Story
-

2:22 A Ghost Story

-
Book Now

Ar ôl saith tymor yn y West End, torri record gyda thaith o amgylch Prydain ac Iwerddon a deuddeg o gynyrchiadau ar draws y byd, mae’r ffenomenon 2:22 A Ghost Story ar ei ffordd i Landudno.

Wedi ennill y DDRAMA NEWYDD ORAU yng Ngwobrau Whats On Stage, mae’r stori iasol oruwchnaturiol a ysgrifennwyd gan Danny Robins, crëwr podlediadau poblogaidd y BBC: Uncanny a The Battersea Poltergeist. Mae wedi cynnwys amrywiaeth eang o berfformwyr (gan gynnwys Lily Allen, Cheryl, Stacey Dooley, Tom Felton, Jake Wood a James Buckley).  Mae’n noson ddoniol a llawn adrenalin lle bo cyfrinachau yn dod i’r amlwg ac efallai y bydd ambell ysbryd yn ymddangos…. Beth ydych chi’n ei gredu?  Ac ydych chi’n ddigon dewr i ddarganfod y gwir? 

“THERE’S SOMETHING IN OUR HOUSE. I HEAR IT EVERY NIGHT, AT THE SAME TIME" 

Mae Jenny yn credu bod ysbryd yn ei chartref newydd, ond dydi ei gŵr Sam ddim yn credu yn y fath lol. Maent yn dadlau gyda’u gwesteion cyntaf i swper, hen ffrind, Lauren, a’i phartner newydd, Ben. Ydy’r meirwon wir yn gallu cerdded eto? Mae credoau ac amheuaeth yn gwrthdaro, ond mae rhywbeth yn teimlo’n rhyfedd a dychrynllyd, ac mae’r rhywbeth hwnnw’n agosáu, felly maent am aros yn effro…. tan 2:22…. ac yna fe fyddant yn gwybod. 

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event