Bydd goreuon y byd Snwcer yn dychwelyd i Landudno yn 2026 ar gyfer Pencampwriaeth Agored Cymru, sef y digwyddiad sydd wedi rhedeg hiraf yn y gamp ar wahân i Bencampwriaeth y Byd a Phencampwriaeth y DU.
Mae Pencampwriaeth Agored Cymru wedi bod yn nodwedd ar y calendr byd-eang bob blwyddyn ers 1992, gan ei wneud yn un o dwrnameintiau mwyaf hanesyddol snwcer. Ers 2023 mae wedi’i lwyfannu yn Llandudno, lleoliad gwych sy’n boblogaidd ymhlith cefnogwyr a chwaraewyr. A bydd yn dychwelyd unwaith eto'r flwyddyn nesaf gydag amrywiaeth o gewri’r brethyn gwyrdd yn brwydro am Dlws Ray Reardon.
Mark Selby enillodd y teitl y tymor hwn, gan guro Stephen Maguire yn y rownd derfynol ar ôl dod trwy rowndiau a oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Kyren Wilson, John Higgins, Shaun Murphy, Neil Robertson, Mark Allen, Luca Brecel a’r ffefryn o Gymru, Mark Williams.