2025 Welsh Open - Snooker
-

2025 Welsh Open - Snooker

-
Book now

Bydd y frwydr flynyddol am Dlws Ray Reardon yn dychwelyd i Venue Cymru yn Llandudno o 10 Chwefror tan 16 Chwefror y flwyddyn nesaf.  Gallwch sicrhau eich tocynnau ar gyfer Pencampwriaeth Agored Cymru 2025 o ddydd Gwener yma ymlaen.

Ym Mhencampwriaeth Agored Cymru eleni cafwyd buddugoliaeth syfrdanol gan Gary Wilson, a lwyddodd i gael sgôr o 147 yn ei rownd gynderfynol gyda John Higgins, cyn curo Martin O' Donnell o 9 i 4 ac ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Manteisiwch ar ein cynnig agoriadol arbennig, a gynhelir tan 31 Awst, am docynnau i bedwar diwrnod agoriadol y digwyddiad.

Ar ôl llwyddo i amddiffyn ei goron ym Mhencampwriaeth Agored yr Alban y llynedd, bydd Wilson yn anelu at gyflawni’r un gamp yng Ngogledd Cymru. Bydd yn rhaid iddo wneud hynny yn erbyn chwaraewyr sy’n serennu yn y gamp fel Judd Trump, Shaun Murphy, Mark Allen a llawer mwy.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event