John Bishop - Back At It

John Bishop - Back At It

Archebwch nawr

Mae seren y byd comedi John Bishop yn ychwanegu dyddiadau ychwanegol at ei daith stand-yp DU ac Iwerddon ‘Back At It’ yn dilyn y galw anhygoel am docynnau.

Ar ôl dwy flynedd yn cyflwyno ar y teledu, actio ar y llwyfan, cynnal podlediad, cerdded y ci ac addurno’r ystafell sbâr, mae John yn ôl yn gwneud beth mae’n ei garu fwyaf; sefyll ar y llwyfan a gwneud i bobl chwerthin. 

Dywedodd John: “Rydw i’n falch iawn o ychwanegu’r dyddiadau ychwanegol hyn i fy nhaith ‘Back At It’.  Dechreuodd y sioeau paratoadol tua 10 diwrnod yn ôl - mae pethau’n dechrau llifo unwaith eto ac mae’r ymateb gan y cynulleidfaoedd wedi bod yn anhygoel. Rydw i’n edrych ymlaen at weld llawer mwy ohonoch chi ar y daith.”

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event