Gwirfoddoli gyda ni

Mae dwy ffordd o wirfoddoli yn Venue Cymru

Mae gwirfoddoli yn Venue Cymru yn ffordd rhwydd o ddod i adnabod pobl newydd. Gweithiwn gyda'n gilydd i ddarparu wasanaeth effeithlon a chroesawgar o'r safon uchaf i bawb sy'n ymweld a'r Theatr - cyfle gwych i helpu bobl eraill.

Dilwyn Price  

Stiwardiaid gwirfoddol

Mae ein stiwardiaid gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol fel wyneb cyhoeddus i Venue Cymru yn ystod ein perfformiadau a’n digwyddiadau, gan sicrhau fod ein mynychwyr yn cael profiad cadarnhaol, diogel a llawn mwynhad boed hynny ar y safle, neu mewn digwyddiadau allanol a redwn.

Dylech nodi cyn gwneud cais i fod yn stiward gwirfoddol y bydd disgwyl i chi fod yn bresennol am nifer benodol o weithiau ac mae’n bosibl y bydd gofyn i chi drin arian a defnyddio’r grisiau ar bob lefel o’r lleoliad.

 

Mae gofyn i stiwardiaid weithio yn ystod pedair sioe bob mis o leiaf a bod yn hyblyg gan fod ein rhaglenni yn cynnwys perfformiadau matinee yn ogystal â rhai gyda'r nos.

Mae ein rhaglen yn amrywiol iawn a byddwch yn cael cyfle i fwynhau theatr fyw a genres o gynyrchiadau byw na fyddwch o bosibl wedi’u gweld o’r blaen.

 

Mae ffurflen gais isod neu fel arall e-bostiwch eich enw, dyddiad geni a’ch manylion cyswllt ynghyd ag unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych a’ch diddordeb yn y theatr at ymholiadau@venuecymru.co.uk

Llysgenhadon Ifanc

Mae ein cynllun Llysgenhadon Ifanc yn gyfle i bobl ifanc 16-25 oed fod yn gysylltiedig â Venue Cymru drwy gynllunio digwyddiadau a helpu i’w rhedeg.

Fel grŵp byddwch yn gweithio ar weithgareddau a gweithdai hyrwyddo a hysbysebu sydd wedi’u targedu at bobl ifanc, yn arbennig yn ein digwyddiad mawreddog blynyddol ‘Cymerwch Ran’ a gynhelir bob mis Ionawr.

Bydd Llysgenhadon Ifanc hefyd yn trafod sut y gellir gwneud Venue Cymru yn fwy perthnasol a chyffrous i bobl ifanc.

Bydd y Llysgenhadon Ifanc yn cael cyfle i gyfarfod a chydweithio’n agos ag artistiaid theatr proffesiynol a staff y theatr.

Byddwch yn derbyn tocynnau am ddim ac am bris gostyngedig i rai sioeau yn Venue Cymru, yn ogystal â mynychu rhai nosweithiau i'r wasg. Fel eiriolwyr i’r theatr byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a chyfleoedd am gynyrchiadau theatr â’ch ffrindiau a chysylltiadau drwy gyfryngau cymdeithasol ac ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae’r cynllun hwn yn gyfle gwych i chi ddysgu mwy am y theatr ac i rannu’ch barn a’ch gweledigaethau gyda ni.

I fod yn Llysgennad Ifanc cysylltwch â ni ar youngcreatives@venuecymru.co.uk

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event