10cc In Concert

10cc In Concert

Archebwch Nawr

Mae eiconau roc a phop 10cc wedi cyhoeddi eu bod yn ychwanegu 25 cyngerdd arall i’w Taith Caneuon Mwyaf Mwyaf Poblogaidd ar gyfer yr Hydref 2024.

Yn adnabyddus am eu perfformiadau byw anhygoel, mae eu catalog o ganeuon yn gweld y band yn llifo’n rhwydd o ganeuon pop i moc-reggae a baledi wedi’u harmoneiddio’n drawiadol, i ganeuon roc blaengar “Somewhere In Hollywood” a “Feel The Benefit”.

Mae 3 o’u 11 cân sydd wedi cyrraedd y deg uchaf yn y siartiau wedi cyrraedd brig siartiau’r DU – “Rubber Bullets”, “I’m Not In Love” and “Dreadlock Holiday”, ac wedi cyrraedd siartiau ar draws y byd, sy’n egluro pam bod amserlen deithio’r band yn un sy’n mynd â nhw i Awstralia a Seland Newydd, Japan, Gwlad yr Iâ, Latfia ac o Sgandinafia i wledydd tir mawr Ewrop.

Wrth y llyw mae Graham Gouldman, un o’r aelodau a ffurfiodd 10cc, ac meddai: 

“Yr hyn sydd wedi dod â’r boddhad mwyaf i mi ydi gweld y newid yn nemograffeg ein cynulleidfaoedd a mwy a mwy o bobl ifanc yn dod i’n gigiau. Y sioeau ym mis Mawrth oedd y sioeau mwyaf poblogaidd yn y DU ac roedd hynny'n beth braf i’w weld, oherwydd y cwbl rydym ni’n ei wneud ydi gwneud yr hyn rydym ni’n ei garu – sef chwarae cerddoriaeth 10cc.”

Mae’r band yn cynnwys Gouldman – gitâr fas, gitâr drydan, gitâr acwstig a llais; Rick Fenn – prif gitarydd, gitâr fas, gitâr acwstig, llais; Paul Burgess – drymiau, offerynnau taro, allweddellau; Keith Hayman – allweddellau, gitâr drydan, gitâr fas, lleisiau; ac Andy Park – gitâr drydan, gitâr fas, gitâr acwstig, offerynnau taro, mandolin, allweddellau a llais.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event