Telerau ac Amodau
Amodau a Thelerau gwerthiant
Mae’r telerau ac amodau canlynol yn gymwys i docynnau theatr/digwyddiad Venue Cymru a Theatr Colwyn:
- Ni fydd unrhyw docynnau yn cael eu cyfnewid nac arian yn cael ei ad-dalu.
- Gall docynnau ond gael eu had-dalu os caiff y perfformiad ei ohirio.
- Os fydd perfformiad yn cael ei ohirio, ni fydd Venue Cymru / Theatr Colwyn yn atebol am gostau teithio neu lety ychwanegol.
- Mae ail-werthu’r tocyn i wneud elw ariannol neu fasnachol yn ei wneud yn annilys.
- Gwiriwch y theatr, dyddiad ac amser sydd wedi’i argraffu ar eich tocyn yn ofalus, oherwydd ni all gamgymeriadau gael eu cywiro bob amser ar ôl i’r archeb gael ei gadarnhau.
- Mae rheoli yn cadw’r hawl i ddiwygio’r rhaglen neu artistiaid heb rybudd. Yn yr achosion hyn, nid yw’n orfodol i Venue Cymru / Theatr Colwyn ad-dalu’r tocyn neu eu gyfnewid am berfformiad arall.
- Os ydych yn cyrraedd yn hwyrach na’r amser dechrau a hysbysebir, efallai y bydd gofyn i chi aros tan fydd egwyl addas yn y perfformiad cyn i chi gael cymryd eich sedd. Gall hyn fod yn ystod yr egwyl.
- Mae rheoli yn cadw’r hawl i wrthod caniatâd i’r deiliad tocyn ddod i mewn i’r eiddo.
- Ni chaniateir camerâu, dyfeisiau recordio, gwydrau na llestri yn yr awditoriwm.
- Ni all docynnau ar gyfer digwyddiadau heb eu cadw gael eu hail-gyflwyno os cânt eu colli.
- Ar rai achlysuron gan berfformiad neu ardaloedd cyhoeddus gael eu ffilmio, recordio sain neu dynnu llun. Mae prynu tocyn yn cadarnhau eich cydsyniad i’r ffilmio, recordio sain a/neu dynnu llun ohonoch fel aelod o’r gynulleidfa a darllediadau/cyhoeddiadau dilynol posibl.
- Rhaid i ffonau symudol a galwyr gael eu diffodd drwy’r amser yn yr awditoriwm.
- Byddwch yn ymwybodol er eich diogelwch chi, a mwynhad ein holl gwsmeriaid, rydym yn archwilio bagiau mewn rhai o’n sioeau. Bydd unrhyw alcohol sydd heb ei brynu ar yr eiddo yn cael ei gymryd.
- Mae goleuadau strôb, effeithiau mwg, bang uchel ac ergyd gwn weithiau’n cael eu defnyddio mewn cynyrchiadau. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am ragor o fanylion.
Dylai holl gwynion Venue Cymru gael eu rhoi i sylw’r Pennaeth Adran, Amanda Guy, yn ysgrifenedig trwy e-bost neu’r post:
Amanda Guy, Pennaeth Adran: Rheoli Safleoedd, Venue Cymru, y Promenâd, Llandudno, LL30 1BB
E-bost: info@venuecymru.co.uk
Theatr Colwyn, Ffordd Abergele, Bae Colwyn LL29 7RU
Dylai holl gwynion Theatr Colwyn gael eu rhoi i sylw’r Rheolwr Theatr, Phil Batty, yn ysgrifenedig trwy e-bost neu’r post:
Phil Batty, Rheolwr Theatr, Theatr Colwyn, Ffordd Abergele, Bae Colwyn LL29 7RU
E-bost: theatrcolwyn@conwy.gov.uk
Ymdrechwn i gydnabod cwynion o fewn 3 diwrnod gwaith. Ac ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cerdyn Premier a Thalebau Rhodd
- Mae gennych yr hawl i ganslo eich Cerdyn Premier / Taleb rhodd o fewn 14 diwrnod o’i brynu.
- Rhaid i’r prynwr gysylltu â’r Swyddfa Docynnau yn uniongyrchol am unrhyw ad-daliadau.
- Os ydych yn dymuno canslo, bydd unrhyw wasanaethau a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod canslo 14 diwrnod yn cael eu talu, h.y. Rhaid i docynnau a brynir gyda gostyngiad Cerdyn Premier gael eu dychwelyd a’u prynu eto yn llawn.
- Mae Cardiau Premier / Talebau Rhodd yn ddilys am 12 mis o’u prynu.
Cynigion Arbennig
O dro i dro mae Venue Cymru / Theatr Colwyn yn cynnal cynigion arbennig ar gyfer cwsmeriaid sydd ar y rhestr bostio. Mae’r telerau ac amodau safonol canlynol yn gymwys:
- Ni all gynigion/gostyngiadau gael eu hawlio yn erbyn tocynnau sydd wedi eu prynu eisoes
- Ni ellir defnyddio cynigion/gostyngiadau ynghyd ag unrhyw gynigion neu ostyngiadau eraill
Cystadlaethau
Os yw Venue Cymru / Theatr Colwyn yn cynnig tocynnau theatr fel gwobrau cystadleuaeth, mae’r telerau ac amodau canlynol yn gymwys:
- Mae tocynnau ond yn ddilys ar gyfer dyddiad a’r sioe a nodir ac ni ellir ei gyfnewid
- Nid oes gan y tocynnau werth ariannol