NT Live: A Streetcar Named Desire (15)

NT Live: A Streetcar Named Desire (15)

Archebwch Nawr

Gillian Anderson (Sex Education), Vanessa Kirby (The Crown), a Ben Foster (Lone Survivor) sy’n arwain y cast yng nghampwaith diguro Tennessee Williams, sy’n dychwelyd i sinemâu.

Wrth i fyd bregus Blanche chwalu o’i chwmpas, mae hi’n troi at ei chwaer, Stella am gysur - ond mae ei dirywiad yn ei harwain at Stanley Kowalski, cymeriad creulon ac anfaddeugar. Gan y cyfarwyddwr arloesol, Benedict Andrews, ffilmiwyd y cynhyrchiad llwyddiannus hwn yn fyw yn ystod sioe hynod lwyddiannus a werthodd allan yn theatr Young Vic yn 2014.

Mae’n cynnwys golygfeydd o drais rhywiol a cham-drin domestig.

 

  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event