Yn dilyn perfformiadau lle gwerthwyd pob tocyn yn y West End ac o gwmpas y byd, mae’r deyrnged wych i Simon a Garfunkel yn dychwelyd i Landudno!
“WHAT A GREAT F*ING SHOW” - Art Garfunkel
Does dim llawer o sioeau yn profi’r un llwyddiant byd-eang â The Simon & Garfunkel Story, gyda sawl sioe lle gwerthwyd pob tocyn mewn dros 50 o wledydd ledled y byd a dros 20 o berfformiadau yn y West End yn Llundain, gan gynnwys sawl perfformiad yn y Palladium yn Llundain.
Gan ddefnyddio lluniau enfawr wedi’u taflunio a ffilmiau gwreiddiol, mae’r sioe boblogaidd ryngwladol hon yn adrodd hanes llwyddiant Simon & Garfunkel ac yn cynnwys band byw llawn yn perfformio’r holl ganeuon, gan gynnwys 'Mrs Robinson', 'Cecilia', ‘Bridge Over Trouble Water’, ‘Homeward Bound’ a llawer mwy.
Gyda’r gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd pob perfformiad o’r sioe y mae Art Garfunkel ei hunan yn hoff ohoni, dydych chi ddim eisiau colli’r cyfle i weld hon.