Imperial Classical Ballet ® yn cyflwyno
The Nutcracker
Bale mawreddog ar gyfer tymor y Nadolig
Yn cynnwys Cerddorfa Fyw Fawr
Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae’r Imperial Classical Ballet® yn falch o ddychwelyd eleni i’r DU gyda’r cynhyrchiad bendigedig o The Nutcracker.
Traddodiad Nadoligaidd
Ni fyddai’r Nadolig yr un fath heb daith i’r theatr i brofi hud un o sioeau bale mwyaf poblogaidd y byd - The Nutcracker. Gydag eira, losin, tywysogion, hud a chariad, mae’r cynhyrchiad hudolus hwn yn cipio hanfod tymor y Nadolig.
Wedi’i osod i gerddoriaeth oesol Tchaikovsky, gan gynnwys yr eiconig Waltz of the Flowers a Dance of the Sugar Plum Fairy, mae The Nutcracker yn parhau i swyno cynulleidfaoedd o bob oed. Mae’n gyflwyniad perffaith i harddwch bale gan barhau i fod yn glasur arbennig ar gyfer y rhai sydd â diddordeb brwd.
Ymunwch â ni yn ystod tymor yr Hydref
Dewch i fwynhau hud The Nutcracker, ffefryn tymhorol sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd. Peidiwch â cholli’r cynhyrchiad hudolus sy’n cael ei gyflwyno gydag arbenigedd yr Imperial Classical Ballet® a sain anhygoel cerddorfa fyw.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.imperial-ballet.co.uk