Camwch ar fwrdd y llong am noson o antur ar y môr! Mae Gŵyl Ffilmiau Môr y Byd yn cynnwys casgliad newydd o’r ffilmiau mwyaf anhygoel am antur ar y môr!
Yn cael eu cyflwyno i chi’n arbennig gan y tîm y tu ôl i daith Gŵyl Ffilmiau Mynydd Banff y DU ac Iwerddon, mae'r detholiad hwn o ffilmiau byrion yn cyfuno bywyd môr syfrdanol a mordeithiau gwyllt mewn dathliad sinematig o’n cefnforoedd.
Mentrwch i ddyfnderoedd dirgelaf y blaned i gyfarfod y syrffwyr, padlwyr, plymwyr a gwyddonwyr sydd wedi cysegru eu bywydau i ateb galwad y môr. Ymgollwch yn rhyfeddodau’r môr mawr glas - heb wlychu eich traed!
Gweler www.oceanfilmfestival.co.uk am ragor o wybodaeth. Llun gan Alex Voyer.