Cymerwch Ran - Gweithdy Arlunio a Phaentio
-

Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Cymerwch Ran - Gweithdy Arlunio a Phaentio

Cofrestrwch ar y Diwrnod

-
Am ddim

Dysgwch sut i dynnu llun a phaentio golygfeydd syml o’r tir, y môr a’r machlud yn Affrica a Chymru yng nghwmni Mfikela Jean Samuel. Cewch hefyd roi cynnig ar greu delwau dynol. 

Mae Mfikela yn arlunydd cyfoes penigamp ag amrywiaeth o ddiddordebau. Arlunydd Affricanaidd cyfoes yw Mfikela, a aned ym mhentref Shisong-Kumbo yng nglaswelltir helaeth gogledd orllewin Cameroon yng nghanolbarth Affrica, ac mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru.

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event