Dewch am dro drwy Gwm Rhyd-y-Rhosyn i ddathlu 50 mlynedd o'r recordiau eiconig i blant gan Dafydd Iwan ac Edward
Ymunwch â ni mewn lleoliad arbennig lle bydd cyfle i fynd am dro trwy'r cwm hudol o ganeuon cofiadwy. Bydd yn daith weledol a chlywedol gyfoethog yn para 20 munud. Mae’n addas i bob aelod o’r teulu o’r ifanc i’r ifanc eich ysbryd.
Prosiect y Mentrau Iaith gyda chefnogaeth yr Eisteddfod Genedlaethol – ariannwyd yn wreiddiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rhieni Dros Addysg Gymraeg ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies gyda chyfraniadau gwerthfawr gan gwmni Sain, Eisteddfod yr Urdd, Mudiad Meithrin a chwmni Outdoor Toys Maldwyn.
- Manylion: Byddwch yn gwisgo clustffonau disco distaw ac yn cael eich tywys drwy’r Cwm gan dywyswyr y Cwm wrth wrando ar straeon a chaneuon eiconig. Awn am dro...