Ail-greu'r 80au gwefreiddiol, gan fynd â chi ar daith o atgofion cerddorol reit yn ôl i lawr dawnsio’r clwb nos!
Cyfle i ail-fyw, canu, dawnsio a dathlu llawer o ganeuon gorau erioed yr 80au gan artistiaid fel Duran Duran, Spandau Ballet, Ultravox, Visage, Tears For Fears, ABC, Japan, Yazoo, Human League, Eurythmics a mwy.
Caneuon sy’n aros yn y cof fel Planet Earth, True, Tainted Love, Vienna, The Look Of Love a llawer, llawer mwy!
Perfformir gan fand byw anhygoel gyda threfniadau gwych wedi’u cyfuno gyda lleisiau syfrdanol. Heb os, mae’r sioe hon yn dod â’r profiad mwyaf syfrdanol erioed o’r 80au yn ôl i’r dyfodol!