Cinio gyda Siôn Corn

Cinio gyda Siôn Corn

Archebwch nawr

Dewch i eistedd gyda Siôn Corn i gael cinio Nadolig hudolus ym mwyty Y Review, Venue Cymru.

Bydd Siôn Corn yn cymryd egwyl o'i amserlen brysur i gyfarch pob gwestai. Bydd cyfle i’r plant gael tynnu llun a siarad gyda Siôn Corn am eu dymuniadau dros y Nadolig.

Oedolion - £20

  • Twrci rhost gyda ffriter stwffin, selsig wedi’i lapio mewn bacwn, tatws rhost a dewis o lysiau
  • Neu bydd opsiwn llysieuol / fegan

Plant - £12.95

  • Cinio Nadolig - Twrci Rhost gyda thatws a llysiau
  • Goujons pysgod, cyw iâr neu quorn gyda sglodion tenau a phys gardd ffres
  • Selsig Cytew - selsig bach mewn pwdin Efrog a llysiau wedi rhostio
  • Panini tomato a chaws wedi toddi gyda thatws bychain trwy’u crwyn
  • Pasta mewn saws hufen gydag eog a phersli gyda chaws wedi crasu
  • Yn cynnwys dewis o hufen iâ fel pwdin neu, os ydych yn mynd i'r pantomeim wedyn, twb bach i fynd gyda chi.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event