Manchester by the sea...

Manchester by the sea...

Gan gynnwys The Clone Roses, Oasis Supernova, The Smiths Ltd, The James Experience a DJ Dave Sweetmore

Archebwch nawr

MAE GWLEDD ARBENNIG O GERDDORIAETH MANCEINION YN YMWELD Â LLANDUDNO YR HAF HWN

Dywedodd Ian Brown, prif leisydd The Stone Roses rhyw dro, "Manchester’s got everything except a beach". Wel, ddydd Sadwrn 21 Mehefin 2025, bydd rhai o’r teyrngedau gorau i’r bandiau eiconig hynny o Fanceinion yn dod â’r synau hynny i lan y môr wrth iddynt berfformio yn Venue Cymru Llandudno ar gyfer yr hyn a fydd yn wledd o gerddoriaeth ‘Madchester’ yr haf hwn!

Prif berfformwyr y digwyddiad fydd “The Clone Roses” (sef y band Teyrnged gorau yn y DU i The Stone Roses), ac yn ymuno â nhw fydd Oasis Supernova, The James Experience (Born of Frustration) a The Smiths LTD.

Yn ogystal â hyn i gyd, y gwesteiwr am y noson fydd un o DJs Indi / Dawns / Madchester gorau Manceinion, Dave Sweetmore.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event