The Sensational 60's Experience

The Sensational 60's Experience

Archebwch Nawr

Nid yn unig y mae The Sensational 60’s Experience y sioe 60au fwyaf sydd ar daith , ond hefyd dyma’r unig sioe becyn yn ymwneud â’r 60au sydd ar daith ar hyn o bryd. Yn cynnwys ensemble anhygoel o artistiaid gwreiddiol ac aelodau band, dyma ŵyl llawn nostalgia a fydd yn gwneud i chi gamu yn ôl mewn amser i’r ddegawd hudolus honno a oedd yn llawn cerddoriaeth ac atgofion.

P’un ai a ydych chi’n ail-fyw cerddoriaeth eich ieuenctid neu’n darganfod yr hyn mae eich rhieni wedi bod yn sôn cymaint amdano, dyma’r sioe sy’n rhaid i bawb ei gweld yn 2025!

Yn serennu Dozy Beaky Mick a Tich, The Trems (gyda Jeff Brown, cyn aelod o The Tremeloes), The Fortunes, Spencer James (40 mlynedd gyda The Searchers), a Vanity Fare, bydd y noson fythgofiadwy hon yn llawn clasuron oesol: The Legend of XanaduSilence is GoldenStorm in a TeacupNeedles and PinsHitchin’ a Ride, a llawer iawn mwy!

Byddwch yn barod i gael eich cludo i amser pan oedd cerddoriaeth bop ar ei gorau. Mae The Sensational 60’s Experience yn sioe na fyddwch chi fyth yn ei hanghofio.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event