I ddathlu eu bod wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd ar lwyfannau ar draws y byd am dros 30 o flynyddoedd, mae Fisherman’s Friends yn mynd ar daith. Gyda’r tocynnau wedi eu gwerthu i gyd ym mhob lleoliad ar eu taith ddiwethaf, gan gynnwys y Royal Albert Hall, mae’r band yn edrych ymlaen at berfformio hen ganeuon a rhai newydd.
Mae nifer fawr yn dilyn Fisherman’s Friends ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae ganddynt ddwy ffilm nodwedd enwog, heb sôn am sawl albwm sydd wedi cyrraedd y deg uchaf, mae sioe gerdd wedi’i hysbrydoli gan eu stori, maent wedi cael Gwobr Werin y BBC, cyhoeddwyd llyfr hynod lwyddiannus, rhaglen ddogfen ar y teledu a chafwyd perfformiadau anrhydeddus ganddynt yn nathliadau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, Proms yn y Parc Hyde Park, llwyfan y Pyramid yn Glastonbury... a hyd yn oed ar Strictly Come Dancing. Ym mis Ionawr rhyddhawyd eu pumed albwm All Aboard a’r haf hwn cafodd ‘Brave Volunteers’ (lle cydweithiwyd gyda Seth Lakeman) ei chynnwys yn rhestr chwarae Radio 2.
Mae popeth uchod a mwy wedi ei gyflawni tra’n cynnal eu swyddi dyddiol. Y Fisherman's Friends yw’r pysgotwr cimwch Jeremy Brown, yr awdur/siopwr Jon Cleave, y tyddynnwr/peiriannydd John ‘Lefty’ Lethbridge, yr adeiladwr John McDonnell, y pysgotwr Jason Nicholas, y gwneuthurwr ffilmiau Toby Lobb, y trydanwr Simon Biddick a dau gerddor dawnus iawn sef Marcus Bonfanti a Simon Johnson. Drwy ddyfroedd tawel a chythryblus, mae’r band wedi aros yn union yr un fath ag yr oeddent pan ddaethant at ei gilydd gyntaf i ddysgu ambell sianti fôr mewn ystafell fyw – pysgotwyr a’u ffrindiau.