Beetlejuice Beetlejuice (12A)
-

Beetlejuice Beetlejuice (12A)

-
Archebwch Nawr

Mae Beetlejuice yn ei ôl! Mae Tim Burton, y gweledydd creadigol eithriadol sydd wedi ei enwebu am Oscar a’r seren Michael Keaton, sydd hefyd wedi ei enwebu am Oscar, yn dod at ei gilydd ar gyfer Beetlejuice Beetlejuice, y dilyniant hirddisgwyliedig i Beetlejuice Burton, ffilm sydd wedi ennill sawl gwobr.

Ar ôl trasiedi deuluol annisgwyl, mae tair cenhedlaeth o’r teulu Deetz yn dychwelyd adref i Winter River. Gyda Beetlejuice yn dal i’w phoeni caiff bywyd Lydia ei droi wyneb i wared wrth i Astrid, ei merch wrthryfelgar sydd yn ei harddegau, ddarganfod model rhyfedd o’r dref yn yr atig a chaiff y porth i’r bywyd tragwyddol ei agor yn ddamweiniol. Gyda helynt ar droed yn y ddwy deyrnas, nid yw ond yn fater o amser hyd nes y bydd rhywun yn dweud enw Beetlejuice dair gwaith a bydd y diafol drygionus yn dychwelyd i greu ei anhrefn ei hun.

Mae’n cynnwys lefel gymedrol o arswyd, gwaed, trais, rhyw, cyfeiriadau at gyffuriau ac iaith.

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event