Yn ymuno â Sharon D Clarke, sydd wedi ennill Gwobr Olivier dair gwaith, mae Ncuti Gatwa (Doctor Who; Sex Education) yn y fersiwn orfoleddus hon o gomedi mwyaf poblogaidd Oscar Wilde.
Wrth ymgymryd â rôl gwarcheidwad ufudd yn y wlad, mae Jack yn ymlacio yn y dref dan enw ffug. Yn y cyfamser, mae Algy ei ffrind yn defnyddio ffasâd tebyg. Gan obeithio creu argraff ar ddwy ddarpar wraig, mae’r ddau’n cael eu dal mewn rhaff o gelwyddau y mae’n rhaid iddynt ei thrin yn ofalus.
Max Webster (Life of Pi) sy’n cyfarwyddo’r stori ddoniol hon o hunaniaeth, dynwared a rhamant, wedi’i ffilmio’n fyw o’r Theatr Genedlaethol yn Llundain.
Wedi’i ffilmio o flaen cynulleidfa fyw.
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.