John Barrowman

John Barrowman

Laid Bare 2025

Book now

Yn ei sioe ddiweddaraf, JOHN BARROWMAN, LAID BARE, mae’n dangos yn gadarn ei awch at fywyd a’i gariad dwfn at gân a stori heb sensro dim. 

Yn LAID BARE mae pob un o ganeuon John, boed yn glasuron Broadway neu ffefrynnau cyfoes, yn arddangos ei steil unigryw a’i lais trawiadol.  Mae ei straeon a’i hanesion personol yn llawn o’i feddwl craff, ei swyn Albanaidd a’i egni heintus.

Mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl arloesol fel Capten Jack Harkness yn Doctor Who a Torchwood, Malcolm Merlyn yn Arrow a'i sioeau adloniant niferus ar nos Sadwrn. Mae John wedi ymddangos fel beirniad ar raglenni Dancing On Ice; Any Dream Will Do, How Do You Solve a Problem Like Maria, ac I’d do Anything. Fel cystadleuydd enwog ymddangosodd ar I’m a Celebrity… Get Me Out of Here a Strictly Come Dancing.

Mae ei waith cerddorol helaeth yn y West End a Broadway yn cynnwys rhannau blaenllaw yn Anything Goes, Sunset Boulevard, Chicago, Evita, Miss Saigon, Company, Beauty and the Beast a Phantom of the Opera.

Mae LAID BARE yn fwy na chyngerdd - mae'n ddathliad o gelfyddyd, angerdd, a’r llawenydd a geir o gerddoriaeth. Dyma sioe a fydd yn aros yn y cof.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event