Mae dawnswyr proffesiynol Strictly Come Dancing, Karen Hauer a Gorka Marquez, yn edrych ymlaen yn arw i ddod â’u sioe newydd sbon, SPEAKEASY i Venue Cymru yn 2025.
Mae cerddoriaeth fyw wych a choreograffi syfrdanol i’w disgwyl yn sioe ddiweddaraf Karen a Gorka, sy’n dilyn eu taith gyntaf, FIREDANCE, a deithiodd ar hyd a lled y DU y 2020, 2022 a 2023. Agorwch y drws i fyd dirgel o wychder ac arddulliau dawns eiconig. O glybiau yfed cyfrinachol Efrog Newydd i loriau dawnsio nwydus Havana, ac o Glybiau Bwrlesg canol y 1990au i beli disgo disglair Studio 54, mae SPEAKEASY yn siŵr o fod yn brofiad dawnsio amheuthun. Dewch i ddawnsio’r Mamba, y Salsa, y Charleston, y Foxtrot a’r Samba drwy’r nos gyda’n cast gwefreiddiol o ddawnswyr, cantorion a cherddorion gorau’r byd.
Meddai Gorka, “Rydw i’n teimlo mor gyffrous am gael mynd yn ôl ar y lôn gyda Karen a gweld pawb ar hyd a lled y DU. Rydyn ni’n mynd i drochi’r gynulleidfa mewn byd dirgel o ddawns, ac alla’ i ddim aros!”
Ychwanegodd Karen: “Mae dod ynghyd unwaith eto ar daith newydd gyda fy nghyfaill da Gorka mor gyffrous, ac allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd o bob cwr o’r DU gael gweld y sioe rydyn ni wedi’i chynllunio ar eu cyfer. Rydyn ni’n dod â gwedd a theimlad newydd i’r sioe hon; cerddoriaeth, dawnsiau a thema newydd sbon, lle byddwn ni’n mynd â chi tu ôl i ddrws cudd am noson o adloniant a dihangdod llwyr. Rydyn ni wedi gwirioni cael mynd â’n taith i’r West End am y tro cyntaf. Mae’n argoeli i fod yn antur anhygoel ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw i bawb ddod i ymuno â ni ar y daith.”