Bale helaeth ar gyfer tymor y Nadolig - Yn cynnwys Cerddorfa fyw gyda dros 30 o gerddorion.
Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae Imperial Classical Ballet® yn dychwelyd eleni i’r DU i’ch swyno gyda’r cynhyrchiad bendigedig o The Nutcracker.
Ni fyddai'r Nadolig yr un fath heb daith i'r theatr leol i weld cynhyrchiad disglair o’r bale enwocaf yn y byd – The Nutcracker.
Eira mân, melysion, tywysogion, hud a chariad, dyma rai o'r elfennau a ddaw ynghyd. Dyma gynhyrchiad bale sy’n addas i bawb, ac yn llawn cerddoriaeth gyfarwydd megis Waltz of the Flowers a Dance of the Sugar Plum Fairy.
Mae’r bale hwn yn parhau i gipio calonnau a dychymyg plant ac oedolion fel ei gilydd ar draws y byd. Mae’n berfformiad theatr hudolus tu hwnt, yn gyflwyniad rhyfeddol i’r byd bale yn ogystal â chlasur gwych i unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r grefft.
Dewch i ymuno â ni’r hydref hwn, i weld The Nutcracker, sydd bob amser yn ffefryn Nadoligaidd!