QUEENZ - Drag Me To The Disco!
Mae Queenz yn ôl gyda SIOE NEWYDD SBON! Ymunwch â’r merched am drag-strafagansa, trydanol, lleisiol byw, ble bydd y Dancing Queenz a’r Disco Dreams yn uno ar gyfer parti oes. Yn dilyn dwy flynedd o deithio o amgylch y wlad, cyfnod yn West End Llundain, ac adolygiadau 5 seren niferus, mae Queenz wedi llwyddo’n gyflym fel un o sioeau drag mwyaf llwyddiannus y byd.
Yn cynnwys mwy o secwins a sypreisus nag erioed o’r blaen, mae’r merched yn barod i’ch llusgo ar y llawr i ddawnsio ac i ddathlu’r sêr pop anhygoel a’r divas disgo trawiadol.