MAE BANDIAU BECHGYN YN ÔL!!!
Bydd y peiriant gwynt wrth ei waith felly paratowch i ddathlu’r 90au!
Yn ystod y daith theatr newydd gyffrous hon, mae’r pum bachgen hwn yn addo noson ddigyffelyb a fydd yn ennyn llu o atgofion. Dewch â’ch ffrindiau gyda chi i barti heb ei ail wrth i chi fynd ar siwrnai o ganeuon poblogaidd a gyrhaeddodd frig y siartiau o Blue, Boyzone, NSync a Westlife i Backstreet Boys, Take That a llawer mwy.
Bydd yn cynnwys dros 30 o glasuron pop fel One Love, Words, Love Me For A Reason, Bye Bye Bye, Uptown Girl, Flying Without Wings, I Want It That Way, Pray and Relight My Fire, ac felly ‘The Ultimate Boyband Party Show’ yw’r noson allan sy’n siŵr o godi calon.
Felly, am beth ydych chi’n aros? Rhowch eich het Kangol a’ch trywsus cargo ymlaen, dewch o hyd i’ch ffyn golau, a pharatowch ar gyfer noson fythgofiadwy.