Cymerwch Ran 2024 - Cyfleoedd noddi
A fyddech chi’n hoffi i’ch negeseuon gyrraedd yn uniongyrchol i 13,000 o bobl dros ddau ddiwrnod ym mis Ionawr? Ymunwch â ni am gyfleoedd unigryw i gyrraedd eich cynulleidfa darged wyneb yn wyneb yn y digwyddiad poblogaidd, cyffrous, hwn.
Mae Cymerwch Ran yn benwythnos ar gyfer y celfyddydau a gwyddoniaeth sy’n digwydd yn flynyddol ar gyfer rhai 0-18 mlwydd oed a’u teuluoedd. Bydd cannoedd o weithdai unigol, sesiynau galw heibio, dosbarthiadau meistr a pherfformiadau yn digwydd dan yr un to yn Venue Cymru, Llandudno, ar 13 a 14 Ionawr.
Mae Cymerwch Ran yn rhad ac am ddim gan mwyaf, gan mai ei nod yw annog pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau creadigol.
Pam Noddi Cymerwch Ran?
Dyma gyfle perffaith i fusnesau hyrwyddo eu hunain o flaen cynulleidfa darged. Bydd 13,000 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad hwn, a byddwn yn gweithio gyda’r cwmnïau i wneud y mwyaf o’u brand, cynorthwyo gydag ymgysylltu â’r gymuned, a chefnogi eu hamcanion o ran eu Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o frand o flaen cynulleidfaoedd targed ar gyfryngau cymdeithasol, sgriniau digidol, llyfryn digidol a thocynnau (yn dibynnu ar yr artist) Venue Cymru.
- Ymgysylltu â’r gymuned – cyfle i ymgysylltu â’r gymuned ynglŷn â’r busnes.
- Siarad yn uniongyrchol gyda’ch cynulleidfa darged, gyda chyfleoedd ar gyfer stondinau a digwyddiadau dros dro drwy gydol y penwythnos.
- Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – cyfle i ddangos ymrwymiad y cwmni i faterion cymdeithasol / amgylcheddol wrth ddatblygu delwedd gadarnhaol i’r brand.
- Marchnata a hyrwyddo – defnyddio’r digwyddiad i arddangos yr hyn sydd gan y cwmni i’w gynnig.
Ffyrdd o Gefnogi
Edrychwch ar y ffyrdd o gymryd mantais o’r digwyddiad unigryw hwn, a awgrymir gennym isod. Os hoffech opsiwn wedi ei deilwra ar eich cyfer, cysylltwch ag Anwen neu Alison, a fydd yn fwy na pharod i weithio gyda’ch canlyniadau gofynnol i ddylunio pecyn nawdd neu farchnata neilltuol.
GWERTHU - Byddwch y Prif Noddwr o £2,500
- Gofod am y penwythnos cyfan yn yr Arena ar gyfer gweithgareddau a hyrwyddo
- Mynediad unigryw i weithdai a pherfformiadau ar gyfer eich cwsmeriaid neu staff
- Hyd at 10 Sticer Llawr
- Posteri ar ddwy ochr i fynedfa’r Arena
- Presenoldeb ar sgrin ddigidol am y penwythnos cyfan
- Logo ar y Cynllun
- Troedyn ar e-bost a anfonir i 69,000
- Logo ar wefan Cymerwch Ran
- Sticer ar wydr
Hawliau Enwi ar gyfer yr Awditoriwm am y penwythnos, o £500 y diwrnod
- Mynediad unigryw i ddigwyddiadau’r Awditoriwm ar gyfer eich cwsmeriaid neu staff
- Hyd at 7 sticer llawr (Cyntedd y Theatr)
- Posteri ar ddwy ochr yr Awditoriwm a’r Cyntedd
- Presenoldeb ar sgrin ddigidol
- Logo ar y Cynllun
- Logo ar docynnau pob perfformiad yn yr Awditoriwm sy’n gofyn am docyn
- Logo ar wefan Cymerwch Ran
- Sylw gan y cyflwynydd
Hawliau Enwi ar gyfer y Neuadd, o £325 y diwrnod
- Mynediad unigryw i ddigwyddiadau’r Neuadd ar gyfer eich cwsmeriaid neu staff
- Hyd at 5 sticer llawr
- Posteri ar ddwy ochr i ddrysau’r Neuadd
- Presenoldeb ar sgrin ddigidol
- Logo ar y Cynllun
- Logo ar docynnau pob perfformiad yn y Neuadd sy’n gofyn am docyn
- Logo ar wefan Cymerwch Ran
Noddi Artist / Gweithdy, o £250 (am un neu ddau ddiwrnod)*
- Lleoedd unigryw yn y gweithdy neu’r digwyddiad ar gyfer eich cwsmeriaid neu staff
- Cyfle am lun gyda’r artist
- Presenoldeb ar sgrin ddigidol
- Logo ar y Cynllun
- Logo ar docynnau os oes tocynnau
- Logo ar wefan Cymerwch Ran
- Poster yn yr ystafell
*yn amodol ar fod yr artist yn cytuno
Gofod ar gyfer stondin o £130 y stondin y diwrnod (£200 am y ddau ddiwrnod)
Cyfle i’ch cwmni hyrwyddo ac ymgysylltu â’r teuluoedd
Noddi artist a thalu am stondin yn y digwyddiad, o £300
Cyfle perffaith i gwmni wneud y mwyaf o’i frand wrth ymgysylltu â’r teuluoedd.
Gofod ar gyfer hysbysebu o £100
- Hysbyseb ar y sgriniau digidol drwy’r penwythnos a’r wythnos sy’n arwain at y digwyddiad.
For more information...
Contact anwen.jones@venuecymru.co.uk for more information.