Treuliwch noson o adloniant gyda sêr sioe deledu Channel 4 Escape to the Chateau, Dick ac Angel Strawbridge, gan brofi’r Chateau fel na wnaed erioed o’r blaen.
Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae miliynau o wylwyr ledled y byd wedi eu cyfareddu gan anturiaethau’r cyn-Lefftenant Cyrnol, peiriannydd a chogydd, Dick, a’i wraig, Angel, sy’n entrepreneur a dylunydd. Nawr, yn dilyn dwy daith o’r DU a werthodd bob tocyn, mae’r pâr yn ôl, yn rhannu hyd yn oed mwy o’r anturiaethau, heriau a llwyddiannau adeiladu a byw eu breuddwyd yn y Chateau.
Ar gyfer eu taith fwyaf hyd yma, bydd y cwpwl yn trafod pam y gwnaethant fentro, a mynd â’r gynulleidfa y tu ôl i’r llenni yn eu cartref a beth sydd ei angen i fyw eich breuddwydion. O ddechrau eu siwrnai gyda’r Chateau i’r presennol, byddant yn ailymweld â chyfnodau clasurol ac yn adrodd hanesion na chlywyd o’r blaen.
Efallai eu bod yn ‘gwpwl od’, ond mae gan y pâr carismatig stori serch i’w rhannu a llawer i’w ddweud. Sioe hynod o ryngweithiol, gyda gemau doniol a chyfle i ofyn eich cwestiynau eich hun, bachwch docyn.