N-Dubz Telerau ac Amodau'r

Telerau ac Amodau'r Tocynnau a'r Digwyddiad

  • Mae “Asiant” yn golygu'r asiant awdurdodedig y gwnaethoch chi brynu’r Tocyn ganddynt.
  • Mae “Amodau” yn golygu’r telerau ac amodau hyn.
  • Mae “Digwyddiad” yn golygu’r digwyddiad i'w gynnal yn y Lleoliad.
  • Mae “Orchard Live” yn golygu Orchard Live Ltd, ei gynrychiolwyr, gweision, gweithwyr ac is-gontractwyr a bydd “Ein” yn cael ei ddarllen yn unol â hynny.
  • Mae “Yr Hyrwyddwr” yn golygu'r person neu'r cwmni sy'n cynnal y Digwyddiad.
  • Mae “Lleoliad” yn golygu'r lleoliad fel y nodir ar y Tocyn.
  • Mae “Tocyn” yn golygu unrhyw docyn ar gyfer Digwyddiad.
  • Mae “Y Deiliad” yn golygu chi neu unrhyw un sydd ym marn resymol Yr Hyrwyddwyr yn gweithredu gyda'ch awdurdod neu ganiatâd a bydd “Eich” yn cael ei ddarllen yn unol â hynny.

-----------------

  • Bydd Ardal Wylio Hygyrch yn y digwyddiad; nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac mae tocynnau ar gael trwy (Venue Cymru) Bydd ceisiadau’n cael eu prosesu ar sail y cyntaf i'r felin.

-----------------

  1. Rhoddir y tocyn yn amodol ar reolau a rheoliadau’r lleoliad y mae’r tocyn hwn yn berthnasol iddo (y Lleoliad), sydd ar gael o’r Lleoliad ar gais, ac i delerau ac amodau’r Hyrwyddwr fel y’u rhestrir yma ac sydd ar gael ar wefan yr Hyrwyddwr (www.orchardlive.com) neu ar gais.
  2. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r deiliad os, ym marn rhesymol yr hyrwyddwr, y gallai deiliad y tocyn achosi perygl i ddiogelwch y gynulleidfa a / neu'r deiliad a / neu effeithio ar fwynhad y gynulleidfa a / neu rediad y cyngerdd; er enghraifft, os yw'n ymddangos bod y deiliad dan ddylanwad alcohol a / neu gyffuriau a / neu eu bod yn ymddwyn yn ymosodol a / neu'n amhriodol.
  3. Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golled, anaf neu ddifrod i'r deiliad neu eiddo’r deiliad.
  4. Ni chaniateir unrhyw gamerâu proffesiynol, recordwyr fideo nac unrhyw ffurf ar gyfarpar recordio fideo a sain proffesiynol yn arena’r digwyddiad.
  5. Ni chaniateir dod â photeli, caniau, cynwysyddion, alcohol na bwyd i'r lleoliad. Er na chaniateir bwyd yn arena’r cyngerdd, bydd dewis o fwyd a diod ar gael yn arena'r digwyddiad.
  6. Bydd rhai sy’n edrych yn iau na 25 oed angen prawf o’u hoedran i brynu alcohol.
  7. Ni chaniateir tân gwyllt, tuniau nwy, fflagiau, polion, ymbaréls, cyfarpar picnic na phethau tebyg eraill y gellid eu cyfrif yn 'arf' yn y lleoliad a gellid gwrthod mynediad i unrhyw un sy'n meddu ar bethau o'r fath.
  8. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i chwilio’r Deiliad ac eiddo’r Ddeiliad a gwrthod mynediad i unrhyw un sy'n gwrthod derbyn chwiliad gan swyddog heddlu neu stiward neu orfodi iddynt adael y Lleoliad.
  9. Gallai’r deiliad orfod gadael y lleoliad os yw'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau rhesymol stiward neu berson arall sy'n gweithredu ar ran yr hyrwyddwr.
  10. Os yw’r cyngerdd yn cael ei ganslo, gallai’r deiliad ofyn i’r hyrwyddwr un ai a) ad-dalu'r gwerth sydd wedi'i argraffu ar y tocyn neu b) yn amodol ar argaeledd, cynnig tocyn arall i’r deiliad ar gyfer sioe arall sy’n cael ei hyrwyddo gan yr hyrwyddwr sy’n cynnwys yr act yn y perfformiad a ganslwyd. Mae’r digwyddiad hwn sydd â sawl artist yn cael ei farnu yn ôl y thema gyffredinol yn hytrach na’r actau unigol sydd i ymddangos. Felly, os nad yw artist sydd wedi’i drefnu’n gallu perfformio oherwydd amgylchiadau anochel ond bod yr hyrwyddwr yn parhau i gynnal y digwyddiad, ni fydd ad-daliad yn cael ei roi. Ni ellir rhoi ad-daliad am ffioedd archebu a chostau postio.
  11. Ni ellir dod i mewn i’r lleoliad eto ar ôl dod iddo unwaith.
  12. Ni fydd tocynnau eraill yn cael eu rhoi yn lle tocynnau sydd wedi'u colli neu eu difrodi. i) Gallai tocyn fod yn annilys os oes rhan ohono ar goll, wedi’i newid, ei rwygo neu â marciau arno. ii) Mae tocynnau’n cael eu hargraffu dan brosesau diogelwch. Mae prynu unrhyw docynnau o ffynonellau ar wahân i asiantaethau swyddogol ar eich cyfrifoldeb eich hun a gallent fod yn annilys. Byddwch ar wyliadwrus o docynnau ffug. Ni fydd tocynnau a brynir o safleoedd tocynnau eilaidd fel VIAGOGO yn ddilys. iii) Ni ellir defnyddio tocynnau yn rhan o unrhyw weithgarwch marchnata, cyfryngau na hyrwyddo gwerthiant, p’un a yw’n fasnachol neu’n anfasnachol, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr hyrwyddwr.
  13. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i newid y trefniadau eistedd  heb hysbysiad ymlaen llaw yn amodol ar gynnig seddi o werth cyfartal neu well i'r deiliad. Os nad oes seddi o'r fath ar gael, gall y Deiliad, o fewn tri deg munud o ddechrau perfformiad y brif act, ddewis gadael y Lleoliad a chymryd ad-daliad o werth wyneb llawn y tocyn(nau) wrth ildio'r tocynnau i swyddfa docynnau’r Hyrwyddwr ar y safle.
  14. Rhaid gwneud unrhyw gwynion am allu'r Deiliad i wylio'r cyngerdd o'i sedd (os o gwbl) i swyddfa docynnau'r Hyrwyddwr ar y safle o fewn tri deg munud i ddechrau perfformiad y brif act.
  15. Mae’r Deiliad yn rhoi eu caniatâd i gael eu recordio a / neu eu ffilmio ac i'r recordiad a / neu'r ffilm gael eu defnyddio mewn unrhyw gyfryngau ar draws y byd neu mewn rhan ohono.
  16. Mae’r amseroedd sydd i’w gweld ar eich tocyn yn rhai bras yn unig ac mae’r hyrwyddwr yn argymell i'r deiliad gyrraedd yn gynt na'r amser sydd i’w weld er mwyn osgoi unrhyw siom sy'n deillio o unrhyw newid(iadau) i'r amseroedd.
  17. Mae’ch tocyn yn parhau gyda’r hyrwyddwr nes mae taliad llawn wedi’i dderbyn gan yr hyrwyddwr.
  18. Pe bai'r deiliad yn torri unrhyw un o'r amodau hyn, mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo eich tocyn a chadw unrhyw arian sydd wedi'i dalu amdano.
  19. Byddwch yn ymwybodol bod sŵn uchel am gyfnodau hir, dro ar ôl tro’n gallu achosi niwed parhaol i'ch clyw.
  20. Uchafswm o 3 o blant am bob 1 oedolyn.
  21. Ni ellir cyfnewid nac ad-dalu tocynnau oni bai bod y perfformiad yn cael ei ganslo, ei aildrefnu neu lle mae newid sylweddol i'r Digwyddiad. Mae newid ‘sylweddol’ yn newid sydd, ym marn resymol Yr Hyrwyddwyr, yn gwneud y Digwyddiad yn sylweddol wahanol i’r Digwyddiad y gallai prynwyr y Tocyn, o’i gymryd yn gyffredinol, ei ddisgwyl yn rhesymol. Sylwch nad yw’r canlynol yn cael eu hystyried yn newidiadau “sylweddol”; tywydd garw; newidiadau i unrhyw artistiaid ategol; newidiadau i aelodau unigol o fand; newidiadau i drefn unrhyw ddigwyddiad aml-berfformiwr; cwtogi'r digwyddiad lle mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiad yn cael ei berfformio'n llawn; ac oedi cyn dechrau perfformiad digwyddiad.
  22. Cyfrifoldeb y Deiliad yw canfod a yw Digwyddiad wedi'i ganslo neu ei ail-drefnu a dyddiad ac amser unrhyw Ddigwyddiad a ail-drefnwyd. Lle caiff Digwyddiad ei ganslo neu ei aildrefnu, bydd yr Hyrwyddwr yn gwneud pob ymdrech resymol i hysbysu'r Deiliad gan ddefnyddio'r manylion a ddarparwyd gan Y Deiliad ar adeg archebu. Nid yw’r Hyrwyddwr yn gwarantu y bydd y Deiliad yn cael gwybod am ganslo o’r fath cyn dyddiad y Digwyddiad. Cyfrifoldeb y Deiliad hefyd yw hysbysu'r man gwerthu o ble prynodd y Deiliad y Tocyn am unrhyw newid i'r cyfeiriad cyswllt, y rhif ffôn neu'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gan y Deiliad adeg ei brynu.
  23. Pan fydd Digwyddiad yn cael ei ganslo, ei aildrefnu (a'r Deiliad yn hysbysu'r Asiant o fewn yr amserlen a bennwyd gan yr Asiant na all neu nad yw'r Deiliad yn dymuno mynychu'r digwyddiad a aildrefnwyd), neu lle mae newid sylweddol i raglen y Digwyddiad, bydd gan y Deiliad hawl i ad-daliad. Os na fydd yr Asiant yn pennu amserlen ar gyfer gofyn am ad-daliad, y terfyn amser yn ddiofyn fydd 48 awr cyn dyddiad y digwyddiad a aildrefnwyd. Bydd methu â hysbysu'r Asiant erbyn y terfyn amser perthnasol nad ydych yn gallu mynychu'r digwyddiad wedi'i aildrefnu yn cael ei ystyried yn ailgadarnhad o'ch archeb am Docynnau neu Becynnau Tocynnau ar gyfer y digwyddiad a aildrefnwyd, ac ni fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad.
  24. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn atebol am unrhyw golled, anaf neu ddifrod i unrhyw berson (gan gynnwys Chi Eich Hun) neu eiddo sut bynnag y’i hachoswyd: (a) mewn unrhyw amgylchiadau lle nad oes tor-dyletswydd gofal cyfreithiol sy’n ddyledus gan yr Hyrwyddwr, (b) mewn amgylchiadau lle nad yw colled neu ddifrod o’r fath yn ganlyniad rhesymol ragweladwy i unrhyw doriad o’r fath (ac eithrio marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i dor-dyletswydd gofal cyfreithiol sy’n ddyledus gan yr Hyrwyddwr); neu (c) i'r graddau bod unrhyw golled neu ddifrod yn deillio o dorri unrhyw un o'r Telerau ac Amodau gan y Deiliad.
  25. Mae tocynnau yn drwyddedau personol y gellir eu dirymu a byddant bob amser yn aros yn eiddo i'r Hyrwyddwr. Bydd unrhyw Docyn a geir yn groes i'r Telerau ac Amodau yn annilys. Gall unrhyw un sy’n ceisio defnyddio Tocyn annilys ei wrthod neu ei daflu allan o’r Lleoliad heb ad-daliad, a gall fod yn destun camau cyfreithiol.
  26. Rhaid i'r Deiliad gydymffurfio â'r holl gyfarwyddiadau a roddir iddo gan yr Hyrwyddwr a/neu holl stiwardiaid a staff y Lleoliad.  Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i rannau o’r Lleoliad. 
  27. Os oes gan y Deiliad gŵyn mewn perthynas â'r Digwyddiad cyn neu yn ystod y Digwyddiad (gan gynnwys heb gyfyngiad, mewn perthynas â gallu'r Deiliad i weld y Digwyddiad), siaradwch â'r Hyrwyddwr neu stiward yn brydlon. Bydd yr Hyrwyddwr yn gwneud ei ymdrechion rhesymol i unioni’r sefyllfa sy’n achosi cwyn Y Deiliad, fodd bynnag ni fydd yr Hyrwyddwr dan unrhyw rwymedigaeth i unioni’r sefyllfa dan unrhyw amgylchiadau. 
  28. Ni ddylech adael unrhyw fagiau neu eitemau eraill o eiddo personol heb oruchwyliaeth yn y Lleoliad. Bydd unrhyw eiddo personol neu eitemau eraill (gan gynnwys heb gyfyngiad, dillad, waledi a ffonau symudol), a geir yn y Lleoliad, yn cael eu cadw gan y Lleoliad am gyfnod o 30 diwrnod ar ôl eu darganfod. Yn ystod y cyfnod hwn, cewch gasglu unrhyw eitem sy'n perthyn i Chi o'r Lleoliad ar ôl dangos prawf adnabod a pherchnogaeth resymol.   Os, ar ddiwedd 30 diwrnod o ddyddiad ei ddarganfod, nad yw unrhyw eitem wedi’i chasglu gennych Chi, mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i waredu unrhyw eitemau o’r fath fel y gwêl yn dda heb unrhyw atebolrwydd pellach i Chi (er gwaethaf unrhyw beth arall yn yr Amodau). Lle bo modd, bydd unrhyw eitemau sydd heb eu casglu yn cael eu rhoi i elusen. 
  29. Nid yw ac ni fydd yr Amodau'n effeithio ar Eich hawliau statudol fel defnyddiwr. I gael rhagor o wybodaeth am Eich hawliau statudol cysylltwch â Chyngor ar Bopeth, Cyswllt Defnyddwyr neu'r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event