Yn wreiddiol o Gonwy mae Maxine Hughes bellach yn ddarlledwr Cymraeg sy’n byw yn yr Unol Daleithiau gyda’i theulu. I’r rheiny ohonoch chi sy’n hoff o Glwb Pêl-Droed Wrecsam, mi fyddwch chi’n adnabod Maxine fel un o ffrindiau’r ddau actor o Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Bu Maxine yn ffodus iawn o gael rhan mewn fideo gyda’r sêr, wrth iddyn nhw gyflwyno eu hunain fel perchnogion newydd y Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Dewch draw i wrando ar Maxine Hughes yn siarad am ei chefndir, a sut mae’r Gymraeg yn chwarae rhan bwysig yn ei bywyd teuluol er nad ydi hi’n byw yng Nghymru bellach.
Mi fydd yna hefyd gyfle i ofyn cwestiynau.
Ystafell Aled: 12.15pm