Taith i ddathlu 50 mlynedd o Squeeze

Taith i ddathlu 50 mlynedd o Squeeze

Book now

I ddathlu 50 mlynedd, mae’r mawrion cerddorol Squeeze wedi cyhoeddi taith anferth o amgylch y DU ar gyfer 2024.

Gyda hanner canrif nodedig o ran pop gitâr a wnaed yn ystod y cyfnod roc a rôl, bydd Squeeze yn perfformio rhestr wefreiddiol o’u caneuon mwyaf poblogaidd, yn ogystal â thrysorau prin o’u catalog cefn helaeth.

Yn ymuno â Chris Difford Glenn Tilbrook ar y gitâr fas fydd Owen Biddle, y gitarydd Melvin Duffy, yr offerynnydd taro, Steve Smith, yr allweddellwr,  Stephen Large a’r drymiwr, Simon Hanson - mae sŵn ac ysbryd Squeeze yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fywiog  yn ei 50 mlynedd o fodolaeth.

Mi fydd Badly Drawn Boy yn ymuno â nhw.

 

Penblwydd Squeeze yn 50 oed (profiad VIP) - Gwirio sain, sesiwn cwestiynau ac atebion a’r profiad o gael y sedd orau.

Cyfle prin ac unigryw i wylio sesiwn gwirio sain Squeeze lle byddan nhw’n perfformio trac bonws sydd ddim yn cael ei berfformio yn eu perfformiad gyda’r nos.

Ar ôl y sesiwn gwirio sain bydd Squeeze yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiynau ac atebion byr gyda chynulleidfa VIP.

Mwynhewch y prif gyngerdd mewn sedd o’r pris uchaf.

Derbyniwch eich bag VIP Squeeze sy’n cynnwys:

  • Lithograff gwaith celf o’r daith ar A4, wedi’i lofnodi gan Chris a Glen

  • Bathodyn pin VIP Squeeze wedi’i rhyddhau am gyfnod penodol

  • Cerdyn taith VIP Squeeze i’w roi o amgylch y gwddf

-----------

Ar ôl nifer o flynyddoedd yn codi arian a chyflawni gweithgareddau ymwybyddiaeth gyda Squeeze ac fel artist unigol, mae Glenn Tilbrook, wedi derbyn gwahoddiad i fod yn Lysgennad ar gyfer elusen atal tlodi Trussell Trust. Mae Squeeze wedi cadarnhau y byddant unwaith eto yn cefnogi’r elusen sy’n darparu bwyd a chefnogaeth i bobl mewn argyfwng ac sydd methu fforddio’r hanfodion, wrth ymgyrchu dros newid fel nad oes angen banciau bwyd yn y DU.
Ar hyn o bryd mae miliynau o bobl ar draws y wlad yn dioddef o dlodi a heb unrhyw ddewis ond troi at fanc bwyd am gymorth. Mae banciau bwyd yn y rhwydwaith Trussell Trust wedi torri record drwy ddarparu 1.5 miliwn o barseli argyfwng rhwng Ebrill a Medi 2023. Bydd y gaeaf hwn y prysuraf erioed mewn banciau bwyd sydd eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn ac angen i’r cyfraniadau bwyd i barhau ar gyfer y bobl sydd eu hangen rŵan.
Rydym ni’n gwahodd pobl sy’n dod i weld y daith i ddod â chyfraniadau bwyd i’r sioeau. Bydd pwyntiau casglu ar draws y lleoliad bob nos. Bydd bwcedi casglu arian hefyd, i unrhyw rai sydd eisiau rhoi cyfraniad.  Bydd yr holl gyfraniadau’n cael eu rhannu i bobl sydd mewn argyfwng ar draws y 1,300 o ganolfannau banciau bwyd sy’n rhan o rwydwaith Trussell Trust.
Gallwch gyfrannu bwyd yn ein sioeau neu, os ydych eisiau gwneud gwahaniaeth rŵan gallwch wneud cyfraniad y gaeaf hwn i’ch banc bwyd lleol. Ewch i www.trusselltrust.org/donate-food er mwyn darganfod sut i wneud cyfraniad i’ch banc bwyd lleol a’r eitemau sydd eu hangen arnyn nhw fwyaf y gaeaf hwn.
Mae Squeeze yn diolch i chi ymlaen llaw am eich haelioni ac yn edrych ymlaen i’ch gweld chi yn y sioeau.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event