Suor Angelica / Gianni Schicchi

Opera Cenedlaethol Cymru

Suor Angelica / Gianni Schicchi

Puccini

Ar werth: Gwe 1 Mawrth, 10am

Aberth a chynllwyniau – opera dwbl cyfareddol

Suor Angelica a Gianni Schicchi gan Puccini yw’r pâr perffaith o emosiwn uchel, drama ddwys a chomedi du. Yn gwau stori ingol am aberth a gwaredigaeth, mae Suor Angelica yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau tra bod Gianni Schicchi yn llawn troeon annisgwyl, twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll.

Wedi'i chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr rhyngwladol enwog, Syr David McVicar (La traviata WNO), a chyda cherddoriaeth wych megis yr aria boblogaidd O mio babbino caro, mae elfennau sy’n ategu ac yn cyferbynnu yn y bil dwbl dramatig hwn.

  • Arweinydd  Alexander Joel
  • Cyfarwyddwr  David McVicar

Cyd-gynhyrchiad â Scottish Opera

wno.org.uk/trittico  |  #WNOtrittico  

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event